
Mesurau Diogelwch Ffordd - Ysgol Y Garnedd - Road safety Measures


At sylw / for the attention of:
Dilwyn Williams, Prif Weithredwr/Chief Executive Cyngor Gwynedd Council
Cyng. /Cllr. Dyfed Wyn Edwards, Arweinydd/Leader Cyngor Gwynedd Council
Hywel Williams AS/MP, Aelod Seneddol ARFON Member of Parliament
Rydym ni sy’n arwyddo’r ddeiseb yma yn galw ar Gyngor Gwynedd i weithredu fel mater o frys, mesurau i liniaru’r posibilrwydd o ddamwain tu allan i Ysgol y Garnedd, Ffordd Penrhos, Bangor yn sgil problemau parhaus â thraffig yn gyrru; cyfyngiad cyflymder o 20mya tu allan i’r ysgol ar Ffordd Penrhos, arwyddion clir yn nodi bod ysgol a phlant gerllaw, llinellau arafu cyflymder a physt ar y pafin i nodi man croesi. Byddai hynny fel rhan o gynllun gwyrdd cyfansawdd ar gyfer teithio i’r ysgol yn Ninas Bangor.
We the undersigned petitioners call on Gwynedd Council to implement, as a matter of urgency, the following road safety measures to mitigate any potential accident outside Ysgol y Garnedd, Ffordd Penrhos, Bangor in light of continuing problems with speeding traffic; a 20mph speed restriction outside the school on Ffordd Penrhos, clear signage to indicate the presence of a school & schoolchildren, traffic calming lines and posts to identify a crossing. This should be part of a wider green transport to school plan for the City of Bangor.
Comment