Ben Meakin 0

Lobi dros wasanaeth trên bob awr allan o Aberystwyth

Show your support by signing this petition now
Ben Meakin 0 Comments
1 person has signed. Add your voice!
1%
Maxine K. signed just now

Fe wyddom ni gyd fod trafnidiaeth Aberystwyth yn ddiffygiol iawn, un o’r ffyrdd hawsaf i fyfyrwyr a thrigolion lleol deithio allan o Aber yw dal y trên, boed hynny i fynd adre’, i siopa neu i fynd ar wyliau. Dywedodd Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2011, y byddai gwasanaeth bob awr o Aberystwyth i Amwythig ar waith erbyn 2012. Er gwaetha’r ffaith fod newidiadau wedi’u gwneud i ganiatáu hyn, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi gwthio hyn yn ôl i 2014/15 os bydd yn digwydd o gwbl! Credwn fod gwir angen cyflwyno’r gwasanaeth bob awr yn gynt na hynny, er mwyn gwneud Aberystwyth yn haws mynd iddi ac er mwyn lleddfu’r pwysau sydd ar y gwasanaeth trên yn barod. Felly, llofnodwch y ddeiseb hon a lledaenwch y neges, gobeithiwn roi digon o bwysau ar Lywodraeth Cymru a’r cyrff perthnasol eraill i gael gwasanaeth bob awr ar waith erbyn diwedd 2012! Ben Meakin, Llywydd Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth

Share for Success

Comment

1

Signature