 |
 |
 |
20 Chwefror 2003 caewyd Euskaldunon Egunkaria, unig bapur newydd dyddiol Basgeg Gwlad y Basg, drwy orchymyn y Gynulleidfa Genedlaethol, sef llys arbennig ym Madrid nad yw ond yn ymwneud ag achosion sy'n ymwneud â therfysgaeth neu droseddau mawr. Yn ôl y llys hwn, eiddo ETA neu gydweithwyr ETA, y grwp arfog sy'n ymgyrchu dros wladwriaeth annibynnol Fasgaidd, yw'r papur newydd. Mae'r barnwr Juan del Olmo o'r farn bod ETA yn cyllido'r papur newydd fel rhan o'i strategaeth derfysgol'.
Atafaelodd cannoedd o blismyn arfog ddogfennau a chyfrifiaduron sy'n perthyn i'r papur newydd a'i staff. Ar ben hynny, aed â'r Prif Olygydd a 10 aelod o staff i'r carchar.
Mae pob plaid genedlaethol Fasgaidd a Phlaid y Chwith Unedig yn gytun nad oes unrhyw dystiolaeth i ategu'r cyhuddiadau hyn wedi ei chyflwyno.
Yr ydym ni sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon o'r farn bod y camau hyn yn drais ar hawliau dynol siaradwyr y Fasgeg, ac ieithoedd llai eu defnydd dros y byd, a'r hawl sydd gan bawb at ryddid gwybodaeth yn ei iaith ei hun.
Yr ydym yn galw ar wladwriaeth Sbaen i ganiatau ailgyhoeddi Egunkaria ar unwaith. |
 |
 |
(fields marked with * are required)
|
 |
|
|
The views expressed in this petition are solely those of the petition's
sponsor and do not in any way reflect the views of iPetitions.
iPetitions is solely a provider of technical services to the petition
sponsor and cannot be held liable for any damages or injury or other
harm arising from this petition. In the event no adequate sponsor is
named, iPetitions will consider the individual account holder with which
the petition was created as the lawful sponsor.
|
|
|